White Ribbon Day
|
||
|
|
||
|
||
|
Diwrnod y Rhuban Gwyn |
||
|
Helo, Heddiw yw Diwrnod y Rhuban Gwyn, mudiad sy'n gofyn i ddynion gymryd camau i roi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod a merched (VAWG). Mae thema eleni yn annog dynion i ddal eu hunain yn atebol i fenywod, ac i'w gilydd, er mwyn annog newid ymddygiad cadarnhaol. Gallwch wneud yr addewid Rhuban Gwyn yma. Mae mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod yn flaenoriaeth i ni ac mae'n golygu mynd i'r afael â throseddau a nodwyd fel rhai a gyflawnir yn bennaf ond nid yn gyfan gwbl gan ddynion yn erbyn menywod. Mae'r troseddau hyn yn cynnwys cam-drin domestig, treisio, troseddau rhywiol, stelcio, aflonyddu, cam-drin ar sail anrhydedd gan gynnwys priodas dan orfod, anffurfio organau cenhedlu benywod, tagu neu fygu nad yw'n angheuol, cam-drin plant, masnachu pobl gan ganolbwyntio ar gamfanteisio rhywiol, puteindra a phornograffi. Fel rhan o Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, rydw i wedi mynychu Coleg Afan i gynnal bwrdd ymgysylltu ynghyd â swyddog ymgysylltu'r campws i ledaenu ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod a merched a phwysigrwydd yr ymgyrch. Rydym wedi cael trafodaethau gwych ac wedi ein plesio gan wybodaeth y myfyrwyr am yr ymgyrch. Rhowch wybod i ni, neu i unrhyw un rydych chi'n teimlo'n fwy cyfforddus yn siarad ag ef. Helpwch ni i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.
| ||
Reply to this message | ||
|
|







